Mae cwmni Mothercare wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cau 50 o siopau mewn ymgais i ailstrwythuro’r cwmni yn wyneb trafferthion ariannol.

Mae’r cwmni nwyddau i famau yn cyflogi tua 3,000 o weithwyr mewn 137 o ganolfannau yng ngwledydd Prydain, ac fe fydd y cam diweddara’ hwn yn golygu bod 800 o swyddi yn y fantol.

Maen nhw hefyd wedi cyhoeddi y bydd Mark Newton Jones, a gafodd ei ddiswyddo fis diwethaf, yn cael ei ailbenodi’n brif weithredwr y cwmni.

Mae’r dyn a gafodd ei ddewis i gymryd ei le, sef David Wood, bellach wedi’i benodi’n gyfarwyddwr.

Trafferthion y stryd fawr

Mae cwmnïau yn y diwydiant manwerthu wedi cael sawl ergyd yn ystod y misoedd diwetha’, wrth i hyder cwsmeriaid suddo yn sgil cynnydd mewn chwyddiant.

Maen nhw hefyd wedi gorfod wynebu cynnydd mewn costau cyflogau a threthi busnes.

Ers dechrau’r flwyddyn, mae cwmnïau megis Toys R Us a Maplin wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr, ac mae New Look a Select eisoes wedi cau nifer o’u siopau.