Mae Llywodraethau Prydain a Gogledd Iwerddon wedi cael eu beirniadau am lusgo traed cyn gweithredu i sicrhau deddfwriaeth gadarn i hyrwyddo’r iaith Wyddeleg yn chwe sir.
Yn ôl Conradh na Gaeilge, y mudiad sy’n hyrwyddo’r iaith Wyddeleg, mae’n hen bryd i’r ddwy lywodraeth weithredu Siartr Ieithoedd Rhanbarthol a Lleiafrifol Ewrop.
Mae’r mudiad wedi cyfarfod Pwyllgor Arbenigwyr Cyngor Ewrop yn Belfast yr wythnos yma, sydd yno am y chweched tro i fonitro cynnydd ers i Lywodraeth Prydain arwyddo’r Siartr yn 2001.
Meddai Dr Niall Comer, Llywydd Conradh na Gaeilge:
“Rydym ni wedi ei gwneud hi’n glir i’r ddirprwyaeth fod Llywodraeth Prydain wedi methu yn ei dyletswyddau o ran gweithredu Siartr Ieithoedd Rhanbarthol a Lleiafrifol Ewrop.
“Rydym yn disgwyl y bydd eu hadroddiad yn dweud yr un peth.”