Mae arweinydd UKIP, Gerard Batten wedi awgrymu y gallai Sadiq Khan gael ei ystyried yn hiliol am ddweud y dylai mewnfudwyr o wledydd yr Undeb Ewropeaidd gael ffafriaeth ar ôl Brexit.
Dywedodd Sadiq Khan y byddai’n cefnogi Prif Weinidog Prydain, Theresa May pe bai hi’n rhoi ffafriaeth o ran hawliau mewnfudo i drigolion yr Undeb Ewropeaidd.
Ond mae Gerard Batten wedi galw am “system deg i unrhyw un yn y byd”.
Mae’r ddau wedi bod yn siarad â rhaglen Peston on Sunday ITV heddiw.
‘Hiliol’
Dywedodd Gerard Batten fod Sadiq Khan wedi awgrymu ei fod e am weld “cynllun sy’n ffafrio trigolion yr Undeb Ewropeaidd tros fewnfudwyr eraill”.
“Wel, mae’n debygol fod y rhan fwyaf o bobol sy’n byw yn yr Undeb Ewropeaidd yn wyn, gan amlaf.
“Felly onid yw’n hiliol dweud y byddech chi’n cael system fewnfudo lle’r ydych yn ffafrio pobol o’r Undeb Ewropeaidd yn hytrach na chael system deg?”
Ychwanegodd ei fod e am gael “system deg i unrhyw un yn y byd sydd am ddod”.