Mae’r Prif Weinidog Theresa May wedi addo taliadau iawndal i genhedlaeth Windrush – sef y mewnfudwyr o wledydd y Gymanwlad sydd wedi dioddef yn sgil diffyg prawf o’u hawliau preswyl.

Dywedodd llefarydd ar ran rhif 10 Downing Street y bydd manylion y cynllun iawndal yn cael ei gyhoeddi’n fuan gan y Swyddfa Gartref.

Mae disgwyl y bydd y taliadau’n mynd y tu hwnt i ad-dalu biliau cyfreithiol ac y byddan nhw’n cynnwys cydnabyddiaeth o’r gofid a achoswyd i bobl o’r Gymanwlad sy’n byw ym Mhrydain ers blynyddoedd maith.

Daeth hwb pellach i’w gobeithion ar ôl i’r Archifdy Cenedlaethol yn Llundain gadarnhau bod ganddyn nhw gofnodion glanio miloedd o fewnfudwyr a ddaeth i Brydain ddegawdau’n ôl.

Cafodd manylion llawn teithwyr ar longau i Brydain eu cofnodi gan y Bwrdd Masnach rhwng 1878 ac 1960.

Roedd y Swyddfa Gartref wedi dinistrio miloedd o gardiau glanio mewnfudwyr cyfnod Windrush yn 2009, ac o’r herwydd mae llawer o’r mewnfudwyr hyn yn ei chael hi’n anodd profi bod ganddyn nhw hawl i fyw ym Mhrydain.