Mae lluoedd arfog gwledydd Prydain yn wynebu prinder sylweddol o staff, yn ôl un o gyrff Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Mae adroddiad gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol (NAO) yn nodi bod angen cyflogi 8,200 yn rhagor o bobol er mwyn cyrraedd targed lefelau staff.

Ac mae’n debyg mai dyma yw’r diffyg mwyaf ers degawd.

Ym meysydd peirianneg, cudd-wybodaeth, logisteg, llywio awyrennau, cyfathrebu a gwasanaethau meddygol, mae’r diffyg ar ei waethaf.

Yn ogystal, mae yna ddiffyg sgiliau arbenigol ymhlith pobol sydd eisoes yn gweithio i’r lluoedd arfog, yn ôl yr NAO.

Heriau

“Nid her newydd yw hyn,” meddai Syr Amyas Morse, pennaeth yr NAO.

“Ond o ystyried cymhlethdodau a datblygiad bygythiadau newydd y byd modern, fydd yr her yn gwneud dim ond tyfu.

“Mae angen newid sylfaenol i’r ffordd mae’r adran yn mynd i’r afael â datblygu sgiliau gweithwyr, ac i ddelio a’r diffyg [sgiliau] sydd yna o hyd.”