Dydy toriadau i nifer y plismyn yng ngwledydd Prydain ddim wedi arwain at fwy o drais, yn ôl Ysgrifennydd Cymunedau San Steffan, Sajid Javid.

Dywedodd wrth raglen Andrew Marr y BBC fod 15% yn llai o blismyn nag yr oedd yn 2010, ond “os ewch chi’n ôl ddegawd, roedd troseddau treisgar difrifol dipyn uwch nag ydyn nhw heddiw ond felly hefyd nifer y plismyn”.

Ond mae wedi cydnabod fod “pwysau ar blismyn”, a bod hynny wedi arwain at “ddiogelu cyllidebau’r heddlu”.

Roedd yn ymateb i lansio strategaeth newydd gan Lywodraeth Prydain i herio troseddau treisgar.

‘Stopio a chwilio’

Yn ystod y cyfweliad, fe wnaeth e amddiffyn record y llywodraeth ar bwerau ‘stopio a chwilio’.

“Pan oedd Theresa May yn Ysgrifennydd Cartref, yr hyn roedd hi eisiau ei wneud, yn hollol gywir, oedd sicrhau wrth i bwerau stopio a chwilio gael eu defnyddio, eu bod nhw’n cael eu defnyddio’n gyfreithlon.”

Yn 2013, roedd 27% o achosion o stopio a chwilio yn rhai anghyfreithlon, meddai.

Mae’r Swyddfa Gartref yn bwriadu cynnal ymgynghoriad ar ymestyn y pwerau ar gyfer sylweddau cyrydol.

‘Anwybyddu record’

Ond mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn wedi cyhuddo Theresa May a’r Ysgrifennydd Cartref, Amber Rudd o anwybyddu record y llywodraeth ar ddiogelwch.

“Maen nhw wedi torri 21,000 o blismyn oddi ar ein strydoedd,” meddai.