Mae dyn 55 oed wedi’i arestio ym maes awyr Gatwick ar amheuaeth o droseddau brawychol.

Roedd wedi teithio i wledydd Prydain o Foroco, ac mae wedi’i amau o annog brawychiaeth ac o ledaenu llenyddiaeth frawychol.

Cafodd ei arestio fore heddiw, ac mae’n cael ei holi yn y ddalfa yn ne Llundain.