Mae bachgen naw oed wedi marw ar ôl mynd ar ei ben i mewn i fachgen arall yn ystod gêm bêl-droed ar draeth yn Sbaen.

Y gred ydi fod y bachgen wedi cael trawiad ar ei galon tra’n chwarae yn La Zenia ar y Costa Brava ddydd Mawrth yr wythnos hon (Ebrill 3).

Mae’r cyfryngau lleol yn dweud ei bod hi wedi cymryd 25 munud i ambiwlans ei gyrraedd, a 40 munud i ambiwlans â mwy o offer a diffibrilydd gyrraedd y traeth.

Dyw’r bachgen ddim wedi’i enwi yn swyddogol eto, ond yn ol adroddiadau, roedd yn aelod o deulu o wledydd Prydain sy’n byw yn yr ardal hon o Sbaen.

Mewn datganiad, mae neuadd y dref Orihuela yn dweud fod gwasanaeth achub bywyd wedi bod yn weithredol dros wyliau’r Pasg, ond nad oedd yna swyddogion ar y traeth ddydd Mawrth.

Fe gafodd y bachgen ei gludo i ysbyty yn Torrevieja, ac yna ei gludo gan ambiwlans awyr i Alicante. Bu farw 24 awr wedi’r digwyddiad gwreiddiol ar y traeth.