Wrth i’r ffrae am ymateb Jeremy Corbyn i’r ffrae am wrth-Semitiaeth rygnu yn ei blaen, mae un o brif noddwyr y Blaid Lafur wedi tynnu ei gefnogaeth yn ôl, ac un o swyddogion y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol wedi ymddiswyddo.

Mae Syr David Garrard wedi rhoi oddeutu £1.5m i’r Blaid Lafur ers 2003, ond mae’n dweud fod y blaid wedi methu ag ymateb i’r honiadau am wrth-Semitiaeth.

Daw’r newyddion ar ôl i’r Sunday Times adrodd fod 12 aelod o staff Jeremy Corbyn a changhellor yr wrthblaid, John McDonnell yn aelodau o grwpiau Facebook sy’n cynnwys postiadau gwrth-Semitaidd a threisgar.

Mae ymchwiliad gan y papur wedi dod o hyd i negeseuon o’r fath mewn grwpiau sydd â hyd at 400,000 o aelodau ac sy’n cefnogi Jeremy Corbyn. Ymhlith y postiadau mae rhai sy’n gwadu bod yr Holocost wedi digwydd.

Daeth yr ymchwiliad i fwy na 2,000 o negeseuon o natur wrth-Semitaidd, hiliol ac ymosodol.

Ymateb Llafur

Yn ôl llefarydd ar ran y Blaid Lafur, mae cannoedd o negeseuon yn cael eu postio bob dydd, a’r rhan fwyaf yn negeseuon diniwed am bolisïau’r blaid.

Mae rhan fwya’r staff oedd wedi postio’r negeseuon dan sylw naill ai wedi gadael Facebook neu ddim yn ymwybodol eu bod yn aelodau o’r grwpiau, meddai.

Nid y Blaid Lafur sy’n rheoli’r grwpiau, meddai’r llefarydd, a does ganddyn nhw ddim cysylltiad ffurfiol â’r grwpiau.

Mae’r Aelod Seneddol Iddewig, Luciana Berger yn dweud ei bod hi a’i staff wedi mynd at yr heddlu ar ôl cael eu sarhau a’u bygwth.

Mae Syr David Garrard yn dweud ei fod e eisiau ymbellhau oddi wrth “wrth-Semitiaeth amlwg”.

Ymddiswyddiad Christine Shawcroft

Mae un o swyddogion y Blaid Lafur ynghanol y ffrae wedi ymddiswyddo o Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol y blaid.

Dywedodd Christine Shawcroft fod ei haelodaeth o’r pwyllgor yn “tynnu oddi wrth” waith da’r blaid.

Roedd hi eisioes wedi ymddiswyddo o’i rôl yn gadeirydd ar banel anghydfodau’r blaid.

Roedd hi wedi cyhuddo unigolion o “achosi ffrae er mwyn ymosod ar Jeremy [Corbyn]”.

Mae disgwyl i’r digrifwr Eddie Izzard gymryd lle Christine Shawcroft ar y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol.