Mae’r Uchel Lys wedi gwyrdroi’r penderfyniad i ryddhau’r treisiwr John Worboys o’r carchar, ac mae cadeirydd y Bwrdd Parôl, Nick Hardwick wedi ymddiswyddo.

Roedd dau o’i ddioddefwyr wedi apelio yn erbyn y penderfyniad i’w ryddhau o’i ddedfryd ar ôl deng mlynedd dan glo. Cafodd ei ddedfrydu i gyfnod amhenodol yn y carchar.

Wrth ymddiswyddo, dywedodd Nick Hardwick fod Ysgrifennydd Cyfiawnder San Steffan, David Gauke yn credu na allai barhau yn ei swydd.

Mae’r Bwrdd Parôl wedi canmol y ddwy ddynes oedd wedi apelio, ac fe fydd yr achos yn cael ei drosglwyddo’n ôl i’r Bwrdd Parôl am ymchwiliad pellach.

Cefndir

Cafwyd John Worboys – sydd bellach yn defnyddio’r cyfenw Radford – yn euog o un achos o dreisio, pum achos o ymosod yn rhywiol, un achos o geisio ymosod a deuddeg cyhuddiad o roi cyffuriau i ddioddefwyr.

Ond mae’r heddlu’n credu ei fod yn euog o droseddau yn erbyn dros gant o fenywod rhwng 2002 a 2008.

Yn dilyn gwrandawiad ym mis Tachwedd, rhoddodd y Bwrdd Parôl sêl bendith i’w ryddhau ar drwydded o dan amodau arbennig, gan ddweud bod y penderfyniad ar sail tystiolaeth.

Ond dywedodd yr Uchel Lys y dylid fod wedi cynnal ymchwiliad mwy manwl cyn gwneud penderfyniad.

Yn sgil yr achos, mae’r Ysgrifennydd Cyfiawnder David Gauke wedi cyhoeddi cynlluniau i graffu ar reolau’r Bwrdd Parôl.

Mae Sadiq Khan, Maer Llundain oedd yn cefnogi’r ddwy ddynes, wedi croesawu’r dyfarniad ar ôl helpu’r ddwy ddynes i brofi bod ymgais John Worboys i’w bortreadu ei hun fel dyn oedd wedi newid ei agwedd, yn gwbwl ffuantus.

Wrth sefyll ei brawf cyn ei garcharu, clywodd y llys fod John Worboys yn casglu menywod yn ei dacsi yn y West End ac yn rhoi siampên llawn cyffuriau iddyn nhw, gan honni ei fod e wedi ennill cryn dipyn o arian.