Mae’n bosib na fydd triniaeth feddygol frys ar gael i bobol o wledydd Prydain sy’n teithio yn yr Undeb Ewropeaidd, yn dilyn Brexit.

Dyna yw rhybudd pwyllgor Undeb Ewropeaidd Tŷ’r Arglwyddi sydd yn dweud bod ansicrwydd tros barhad rhaglen y Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (EHIC).

Mae’r EHIC yn galluogi teithwyr o wledydd Prydain i dderbyn triniaeth feddygol yn Ewrop yn ddi-dâl, ac mae gweinidogion eisoes wedi dweud eu bod am weld cynllun yn parhau.  

Ond, mae’r pwyllgor yn pryderu bod y drefn sydd ohoni yn ddibynnol ar symudiad rhydd pobol rhwng gwledydd Prydain ac Ewrop – trefniant all ddod i ben wedi Brexit.

Rhagolygon

“Mae’r drefn sydd ohoni wedi bod yn fuddiol dros ben i rai o aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas,” meddai Cadeirydd y pwyllgor, Arglwydd Michael Jay.  

“Er ein bod yn cymeradwyo awydd y Llywodraeth i gynnal y trefniant iechyd, gan gynnwys EHIC, wedi Brexit, mae’n anodd rhagweld hyn yn digwydd os bydd symudiad rhydd yn dod i ben.”