Mae newyddiadurwraig Brydeinig wedi cael ei hanfon o’r Aifft ar drothwy etholiadau’r wlad.

Cafodd gohebydd Cairo y Times, Bel Trew orchymyn i adael y wlad fis diwethaf ar ôl cael ei harestio dair wythnos yn ôl. Cafodd ei chludo i’r maes awyr gan yr heddlu, a’i gorfodi i fynd ar awyren i Lundain.

Dywedodd llefarydd ar ran y papur newydd nad oes gan yr awdurdodau “unrhyw fwriad” o’i rhyddhau, a’u bod wedi gobeithio y byddai hi’n cael gohebu ar etholiadau’r wlad.

Mae’r papur newydd wedi beirniadu’r awdurdodau am “fygwth y cyfryngau a’n gormesu”.

Yn ôl Bel Trew, mae hi wedi cael ei rhestru fel “persona non-grata”, ac mae’r awdurdodau’n ei rhybuddio y bydd hi’n cael ei harestio pe bai hi’n dychwelyd i’r Aifft.