Cafodd y cyn-ysbïwr Sergei Skripal a’i ferch Yulia eu gwenwyno wrth i nwy nerfol ledu drwy system awyru ei gar, yn ôl adroddiadau’r wasg yn yr Unol Daleithiau.

Mae’r ddau mewn cyflwr difrifol o hyd ar ôl cael eu gwenwyno gan nwy Novichok bythefnos yn ôl ac mae ABC News yn adrodd fod swyddogion bellach yn gwybod mwy am y digwyddiad.

Mae heddlu gwrth-frawychiaeth wedi apelio o’r newydd am wybodaeth am gar BMW 320D Sergei Skripal, rhif cofrestru HD09 WAO.

Dydy Heddlu Scotland Yard ddim wedi gwneud sylw am adroddiadau ABC News, sydd hefyd yn dweud bod 38 o unigolion wedi’u heffeithio gan y nwy.

Adrodd am gudd-wybodaeth Prydain

Nid dyma’r tro cyntaf i asiantaeth newyddion Americanaidd adrodd am gudd-wybodaeth gwledydd Prydain.

Rhoddodd heddlu Prydeinig y gorau i rannu cudd-wybodaeth â’r Unol Daleithiau yn dilyn yr ymosodiad brawychol ym Manceinion fis Mai y llynedd.

Roedd CBS wedi cyhoeddi enw Salman Abedi yn dilyn yr ymosodiad ym Manceinion, wrth i’r heddlu barhau i ofyn i’r cyfryngau Prydeinig i gadw’r enw’n gyfrinachol.

Cafodd lluniau o Arena Manceinion eu cyhoeddi wedyn gan y New York Times.

Yn y cyfamser, mae rhagor o wybodaeth wedi dod i law am Yulia Skripal.

Mae ei gariad yn ysbïwr Rwsiaidd, ac mae Yulia hithau wedi gweithio yn Llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau ym Mosgo.