Mae Hilary Benn, cadeirydd pwyllgor sy’n goruchwylio’r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd, wedi gwadu ei fod e’n ceisio defnyddio’i ddylanwad i ohirio’r ymadawiad.

Mae cefnogwyr Brexit wedi gwrthod cefnogi adroddiad sy’n galw am ymestyn y cyfnod o drawsnewid – a’r dyddiad ymadael pe bai angen.

Mae’r Aelod Seneddol Ceidwadol Jacob Rees-Mogg wedi lladd ar “offeiriaid” yr ymgyrch i aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd Hilary Benn wrth raglen Sunday Politics y BBC: “Nid dyna’r gwirionedd. Nid mater o danseilio canlyniad refferendwm yw hyn.

“Mae’n ymwneud â’r broblem ry’n ni’n ei hwynebu. Mae saith mis cyn bod trafodaethau Erthygl 50 yn dod i ben. Mae llu o faterion sydd heb eu trafod eto.”

O ganlyniad, meddai, fe allai Llywodraeth Prydain ofyn am estyniad i broses Erthygl 50.

Rhwyg

Mae barn aelodau’r pwyllgor wedi’i hollti ynghylch cynnwys yr adroddiad ar y trafodaethau.

Mae Jacob Rees-Mogg, ynghyd â phedwar Aelod Seneddol Ceidwadol arall, ac un Aelod Seneddol o’r DUP, wedi gwrthod cymeradwyo’r adroddiad yn derfynol.

Fe ddefnyddion nhw rym arbennig i sicrhau bod adroddiad “lleiafrifol” yn cael ei gynnwys ymhlith y prif adroddiad.

Dywedodd Jacob Rees-Mogg fod y cynlluniau presennol yn debygol o arwain at “ddyfodol nad yw’n deilwng ohonon ni fel gwlad”.

“Byddai’r adroddiad mwyafrifol yn ein cadw ni yn yr undeb dollau a’r farchnad sengl, sy’n ymgais i’n cadw ni yn yr Undeb Ewropeaidd drwy fod yn gyfrwys. Allai’r rheiny ohonon ni sy’n parchu gorchymyn y bobol yn y refferendwm ddim cefnogi testun mor bleidiol.”

Adroddiad lleiafrifol

Mae’r adroddiad lleiafrifol yn dweud bod cyfnod trawsnewid o 21 mis yn “hen ddigon” o amser.

Mae’n dadlau y byddai’r Deyrnas Unedig yn dal ynghlwm wrth reolau Ewrop ac y byddai angen talu arian heb gael dweud sut y dylai gael ei wario pe bai’r cyfnod yn cael ei ymestyn.

Dywedodd is-gadeirydd y pwyllgor, John Whittingdale ei fod yn “siomedig” nad oedd modd llunio adroddiad unfrydol.

Ychwanegodd fod adroddiad y cadeirydd yn “rhy negyddol o bell ffordd” ac nad oedd modd cefnogi ei gasgliadau “ar sail tystiolaeth”.