Fydd y pyndit pêl-droed Jamie Carragher ddim yn wynebu cyhuddiadau am boeri at ferch 14 oed, yn ôl yr heddlu.

Roedd tad y ferch, Andy Hughes o ogledd Cymru wedi bod yn ei wawdio drwy ffenest ei gar ddydd Sadwrn ar ôl i Man U guro Lerpwl, y tîm yr oedd y pyndit yn arfer bod yn gapten arnyn nhw.

Wrth ymateb, fe boerodd Jamie Carragher i gyfeiriad y car a thrwy’r ffenest at ei ferch a’i tharo yn ei hwyneb. Fe gafodd fideo o’r digwyddiad ei roi ar y we.

Cafodd ei gyfweld gan yr heddlu yn dilyn y digwyddiad, ac mae wedi’i ddiarddel o’i waith gyda Sky Sports tan ddiwedd y tymor, ac yntau’n ennill £1m y flwyddyn.

Ond yn ôl yr heddlu, fyddai dwyn achos yn ei erbyn “ddim er lles y cyhoedd”.