Fe fydd Canghellor San Steffan, Philip Hammond yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus i benderfynu sut mae modd defnyddio’r system drethi i leihau faint o blastig-un-tro sy’n cael ei ddefnyddio.

Yn ei Ddatganiad Gwanwyn cyntaf ddydd Mawrth, fe fydd yn galw am dystiolaeth gan arbenigwyr ar sut y gall Llywodraeth Prydain godi mwy o arian ar y defnydd o blastig.

Nod Llywodraeth Prydain yw rhoi’r gorau’n llwyr i’r defnydd di-angen o blastig erbyn 2042. Fel rhan o hynny, fe fydd Philip Hammond yn cyhoeddi cronfa newydd gwerth £20 miliwn ddydd Mawrth a fydd yn cael ei defnyddio i ddatblygu technoleg newydd.

‘Pla’

Dywedodd Philip Hammond fod plastig-un-tro yn “bla”.

“O becynnau creision i gwpanau coffi, bob blwyddyn mae’r DU yn cynhyrchu miliynau o dunelli o wastraff nad oes modd ei ailgylchu ac sydd ddim yn bydradwy.

“Rydym yn benderfynol o greu amgylchedd sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Drwy gydweithio â’r diwydiant, arloeswyr a’r cyhoedd, hyderaf y gallwn esgor ar wir newid.”