Mae lle i gredu bod nwy nerfol oedd wedi cael ei ddefnyddio i wenwyno’r ysbïwr Rwsiaidd Sergei Skripal yng Salisbury (Caersallog) wedi cael ei ddarganfod mewn bwyty yno.

Fe fydd yr heddlu’n cynnal cynhadledd i’r wasg am 12.30 y prynhawn yma i egluro’r diweddaraf.

Mae’r heddlu wedi siarad â 240 o dystion ac wedi edrych ar 200 o ddarnau o dystiolaeth fel rhan o’r ymchwiliad i’r digwyddiad.

Mae’r ymchwiliad yn canolbwyntio ar fwyty Zizzi, lle cafodd olion o’r nwy nerfol eu darganfod, yn ôl Ysgrifennydd Cartref San Steffan, Amber Rudd. Roedd Sergei Skripal a’i ferch Yulia wedi bwyta yn y bwyty cyn cael eu taro’n wael ddydd Sul diwethaf.

Does dim achos i gwsmeriaid eraill boeni, a does dim awgrym mai un o’r cwsmeriaid oedd wedi gwenwyno’r ysbïwr.

Cafodd y plismon, y Ditectif Sarjant Nick Bailey ei daro’n wael hefyd wrth ymdrin â’r sefyllfa, ond mae’n mynnu nad yw’n “arwr”.

Ymateb i’r digwyddiad

Ers y digwyddiad wythnos yn ôl, mae pwyllgor gwrth-frawychiaeth Cobra San Steffan wedi cyfarfod, ac mae mwy na 250 o blismyn o wyth o unedau arbenigol yn rhan o’r ymchwiliad.

Dywedodd Amber Rudd fod yr ymchwiliad yn mynd rhagddo “â chyflymdra a phroffesiynoldeb”.

Ond mae’n dweud ei bod hi’n rhy gynnar i ddweud pwy oedd yn gyfrifol am y gwenwyno.

Mae Sergei Skripal a’i ferch Yulia yn dal mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn Salisbury. Mae Nick Bailey yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty o hyd.

Mae 21 o bobol wedi derbyn triniaeth feddygol yn sgil y digwyddiad, ac mae’r digwyddiad yn cael ei drin fel achos o geisio lladd. Mae’r lluoedd arfog yn cynorthwyo’r heddlu ar hyn o bryd.