Mae newyddion ffug yn lledaenu ar Twitter chwe gwaith yn gyflymach na gwir straeon, mae ymchwilwyr wedi awgrymu.

Roedd tri ysgolor o Sefydliad Technoleg Massachusetts wedi dadansoddi’r modd  roedd mwy na 126,000 o straeon wedi cael eu lledaenu ar y wefan cyfryngau cymdeithasol dros y degawd hyd at 2016.

Fe wnaethon nhw ganfod bod newyddion ffug yn ymledu “yn sylweddol ymhellach, yn gyflymach, yn ddyfnach, ac yn fwy eang na’r gwir, ym mhob categori o wybodaeth,” yn ôl yr Athro Sinan Aral.

“Mae newyddion ffug yn fwy newydd, ac mae pobl yn fwy tebygol o rannu gwybodaeth newydd,” ychwanegodd.  Mae canfyddiadau eraill yr astudiaeth, sy’n cael eu cyhoeddi yn y cyfnodolyn Science, yn cynnwys bod straeon newyddion ffug 70% yn fwy tebygol o gael eu hail-drydar na gwir straeon.

Fe wnaeth yr ymchwilwyr hefyd ddysgu bod straeon gwir yn cymryd tua chwe gwaith yn fwy i gyrraedd 1,500 o bobl na straeon ffug.