Mae cyfres o ganllawiau i ddiogelu dyfeisiau rhag hacwyr, wedi’u cyhoeddi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Dyfeisiau sydd yn medru cysylltu â’r we sydd dan sylw, wrth i’r Llywodraeth fynd i’r afael â phryderon am allu hacwyr i ddwyn gwybodaeth bersonol.

Mae setiau teledu a theganau ymhlith y dyfeisiau yma, a dan y canllawiau mi fydd cynhyrchwyr yn cael eu hannog i gyflwyno mesurau diogelwch pellach.

Yn raddol, mae teclynnau ‘clyfar’ – enw sy’n cael ei rhoi amdanyn nhw – yn dod yn fwyfwy poblogaidd, ac erbyn 2020 mae disgwyl bydd 420 miliwn ohonyn nhw mewn cartrefi ym Mhrydain.

“Diogelu unigolion”

“Rydym am weld pawb yn elwa o botensial dyfeisiau sy’n medru cysylltu â’r we,” meddai Margot James, Gweinidog tros y diwydiannau digidol a chreadigol.

“Ac mae’n bwysig eu bod yn ddiogel ac yn cael effaith bositif ar fywydau pobol … Bydd hyn yn helpu sicrhau bod gennym y rheolau sydd angen a’r fframweithiau i ddiogelu unigolion.”