Mae adroddiad pwyllgor seneddol wedi cyhuddo Syr Bradley Wiggins a Tim Sky o ddefnyddio cyffuriau pwerus  i baratoi ar gyfer rasys, gan gynnwys buddugoliaeth hanesyddol Bradley Wiggins yn y Tour de France yn 2012.

Mae cyfres o honiadau’n cael eu gwneud yn adroddiad y Pwyllgor Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) gan gynnwys bod Tim Sky wedi defnyddio cyffuriau o fewn y rheolau “i wella perfformiad y seiclwyr, ac nid dim ond ar gyfer dibenion meddygol.”

Mae Bradley Wiggins wedi gwadu bod unrhyw gyffuriau wedi cael eu defnyddio heb fod angen meddygol.

Mae’r adroddiad yn cyfeirio at ddefnyddio Bradley Wiggins o’r cyffur corticosteroid triamcinolone ac ymchwiliad y corff Gwrth-Dopio (UKAD) yn y Deyrnas Unedig i honiadau am gamddefnydd cyffuriau gan British Cycling a Tim Sky.

Daeth ymchwiliad UKAD i ben ym mis Tachwedd ar ôl iddyn nhw dreulio tua 15 mis yn ceisio darganfod a oedd Bradley Wiggins wedi cael triamcinolone gan feddyg Tim Sky Richard Freeman ar ddiwedd ras y Criterium du Dauphine ym mis Mehefin 2011.

Mae Richard Freeman a phennaeth Tim Sky, y Cymro Syr Dave Brailsford hefyd wedi gwadu’r honiadau.

Mae UKAD a chyrff eraill wedi methu profi’r honiadau.

Yn ôl y pwyllgor mae’r tîm wedi croesi “llinell foesol.”