Mae’r Ysgrifennydd Tramor, wedi wfftio pryderon am ‘ffin galed’ rhwng Gogledd Iwerddon a’r Weriniaeth, yn sgil Brexit.

Yn ôl Boris Johnson, pe tasai ffin galed yn cael ei chyflwyno yn yr Ynys Werdd, fe fyddai’r mwyafrif helaeth o nwyddau yn cael ei chroesi heb gael eu gwirio.

Mewn dogfen sydd wedi dod i law Sky News, mae’r gweinidog yn nodi bod pwysigrwydd gwiro ar bob ffin o fewn yr Undeb Ewropeaidd wedi’i “orbwysleisio”.

Bydd yr Undeb Ewropeaidd yn cyflwyno eu strategaeth Brexit yn ddiweddarach heddiw, ac mae disgwyl iddyn nhw alw ar Ogledd Iwerddon i gydymffurfio â’u rheolau er mwyn osgoi ffin galed.

Y Taoiseach

Mae Taoiseach Iwerddon, Leo Varadkar, wedi croesawu’r adroddiadau am strategaeth yr Undeb Ewropeaidd, ond wedi cydnabod y gallai achosi problemau yn San Steffan.

“Dydyn ni ddim yn gallu cymryd yn ganiataol y bydd hyn yn dderbyniol yn y Deyrnas Unedig, nac i holl bleidiau Gogledd Iwerddon,” meddai.

“Felly mae gennym gwpwl o wythnosau diddorol o’n blaenau…”