Mae llanc 15 oed wedi marw ar ôl cael ei daro gan fws yn Brighton.
Fe fu farw ar ôl y gwrthdrawiad ger y traeth yn oriau man y bore yma.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 12.51yb ac fe gafodd y llanc ei gludo i’r ysbyty lle bu farw hanner awr yn ddiweddarach.