Y llynedd, fe gyflawnodd pobol gwledydd Pydain werth £31bn o waith di-dâl.

Mae ymchwil gan Gyngres yr Undebau Llafur (TUC) yn dangos bod bron i bum miliwn o bobol yn gweithio ar gyfartaledd saith awr yr wythnos yn ddi-dâl.

Ac, o’r rheiny, mae pob gweithiwr wedi cyflawni gwerth £6,265 o waith ychwanegol. Gweithwyr sector cyhoeddus sydd yn gyfrifol  am dros draean o waith di-dâl.

Annerbyniol

“Mae staff sector gyhoeddus yn gweithio trwy eu horiau cinio a’n gadael gwaith yn hwyr yn rheolaidd,” meddai llefarydd ar ran Unison Cymru.

“Maen nhw’n gwneud hyn oherwydd eu bod yn ymroddedig i’w cleifion, myfyrwyr a phobol leol sy’n dibynnu arnyn nhw.

“Ond yn syml, dydi disgwyl i weithwyr weithio y tu allan i ofynion y swydd pob dydd, ddim yn dderbyniol.”

Awr ginio

Yn ôl adroddiad y TUC, mae’r gweithiwr cyffredin wedi gweithio ‘am ddim’ hyd yn hyn eleni.

Mae’r corff yn erfyn ar weithwyr i gymryd awr gyfan tros ginio heddiw (Chwefror 23), ac i adael yn brydlon.