Fe fyddai’r cyhoedd yn teimlo bod canlyniad refferendwm Brexit yn cael ei amharchu pe tai Prydain yn aros yn y Farchnad Sengl, yn ôl John McDonnell.

Wrth aros yn y Farchnad Sengl byddai’n rhaid cydymffurfio â rheolau Ewrop tros symudiad rhydd, ac yn ôl Canghellor yr Wrthblaid yn San Steffan, ac fe fyddai’r cyhoedd yn gwrthod hyn.

Ond, mae John McDonnell o’r farn y gallai’r Deyrnas Unedig sefydlu perthynas newydd â’r Undeb Ewropeaidd fyddai’n debyg i aelodaeth y Farchnad Sengl a’n cynnig yr un “manteision”.

Mae’n dadlau mai’r ateb yw sefydlu Undeb Tollau newydd – trefniant fyddai yn ein galluogi i “ddylanwadu ar drafodaethau masnach”.

Ail refferendwm?

Mae John McDonnell hefyd wedi dweud byddai’n well ganddo weld ail etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal yn hytrach nag ail refferendwm Brexit.

“Mae angen trafodaeth ehangach tros ddyfodol y wlad,” meddai. “Dyna pam dw i’n ffafrio cynnal etholiad cyffredinol, ond rydym yn ystyried pob opsiwn.”