Mae cyflogwyr wedi eu cyhuddo o feddu ar agweddau “hen ffasiwn” tuag at fenywod yn y gweithle, yn dilyn cyhoeddi astudiaeth newydd.

Mae’r astudiaeth gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn dangos bod tri o bob pum cyflogwr yn credu y dylai dynes ddatgelu os ydy hi’n feichiog yn ystod cyfweliad am swydd.

Ac mae’n debyg bod dau o bob pum cyflogwr wedi dweud bod menywod oedd yn rhoi genedigaeth i fwy nag un plentyn tra’n gweithio yn yr un swydd, yn medru bod yn “faich” i’r gweithle.

O’r 1,100 o gyflogwyr gafodd eu holi, dywedodd hanner ohonyn nhw bod aelodau o staff weithiau’n teimlo’n ddig tuag at weithwyr oedd yn feichiog neu ar absenoldeb mamolaeth.

“Yr oesoedd tywyll”

“Dyma’r realiti trist o ran hawliau menywod beichiog a mamau newydd yn y gweithle. Rydyn ni o hyd yn byw yn yr oesoedd tywyll,” meddai Prif Weithredwr EHRC, Rebecca Hilsenrath.

“Mae’n anghyfreithlon i beidio â phenodi dynes oherwydd ei bod yn feichiog neu oherwydd y gallai bod yn feichiog. Dylai fod pawb yn gwybod hynny.

“Ond, er gwaetha’ hynny, mae menywod yn wynebu cwestiynau yn rheolaidd mewn cyfweliadau, tros eu cynlluniau i gael plant.”