Roedd rhieni James Bulger yn y llys heddiw i weld un o lofruddion eu mab 2 oed yn pledio’n euog i fod â lluniau anweddus o blant.

Fe gyfaddefodd Jon Venables fod ganddo fwy na 1,000 o luniau, gyda mwy na thraean ohonyn nhw yn y category mwa’ difrifol.

Fe glywodd y llys hefyd fod ganddo “lawlyfr ffiaidd” oedd yn trafod camdrin plant yn rhywiol a chael rhyw gyda phlant.

Fe blediodd yn euog i bedwar cyhuddiad i gyd a chael ei ddedfrydu i dair blynedd a phedwar mis o garchar.

Yr ail dro

Dyma’r ail dro i Jon Venables bledio’n euog i droseddau o’r fath – fe gafodd ei ddedfrydu i ddwy flynedd o garchar am hynny yn ôl yn 2010.

Roedd hynny naw mlynedd ar ôl iddo gael ei ryddhau o’r carchar dan drwydded a gydag enw newydd ar ôl treulio wyth mlynedd dan glo am lofruddio James Bulger yn Lerpwl yn 1993 – ar y cyd gyda bachgen arall deg oed, Robert Thompson..

Aeth Jon Venables gerbron yr Old Bailey trwy gyswllt fideo o’r ddalfa heddiw.

Fe gyfaddefodd ei fod e wedi troi at y “we dywyll” i chwilio am ddelweddau, a bod ganddo fe 392 o ddelweddau categori A, 148 o ddelweddau categori B a 630 o ddelweddau categori C yn ei feddiant. Roedd y rhan fwya’n ddelweddau o blant rhwng chwech a 13 oed, ond rhai yn iau na hynny.

‘Gallu newid’

Ar ei ran, dywedodd Edward Fitzgerald QC fod Jon Venables “wedi gweithio’n galed i adfer ei hun” ers y llofruddiaeth, a phwylseisiodd nad oedd wedi “cysylltu â phlant at bwrpas rhywiol” nac wedi rhannu’r lluniau..

Ychwanegodd ei fod yn “ymddiheuro” am y drosedd, a bod ganddo fe’r “gallu i newid” ac na ddylid “rhoi’r gorau i’r ymdrechion i’w helpu”.