Bu gostyngiad o tua 6% yn nifer y ceir newydd a gafodd eu gwerthu yn ystod mis Ionawr o gymharu â blwyddyn yn ôl, mae ffigyrau newydd yn dangos.

Yn ôl ffigurau Cymdeithas y Gwneuthurwyr a Masnachwyr Moduro (SMMT) cafodd 163,615 o geir eu gwerthu ym mis Ionawr eleni, sy’n gwymp o 6.3% o gymharu â’r un mis yn 2017.

Cynyddodd cofrestriadau ar gyfer ceir petrol a thanwydd amgen (AFVs) yn ystod y mis diwethaf, gan 8.5% a 23.9%, ond bu cwymp o -25% yn y galw am geir disel newydd.

Yn ôl yr SMMT, y cwymp yma mewn gwerthiant ceir disel newydd sy’n bennaf gyfrifol am y gostyngiad mewn gwerthiant cyffredinol.

“Peri gofid”

“Mae’r cwymp sylweddol mewn cofrestriadau newydd am geir disel yn peri gofid,” meddai Prif Weithredwr SMMT, Mike Hawes.

“Yn enwedig o ystyried bod tystiolaeth yn awgrymu nad yw prynwyr a busnesau yn troi at dechnoleg adnewyddadwy, a’u bod yn cadw eu ceir hŷn.”

Cyhoeddodd y Canghellor, Philip Hammond, yng Nghyllideb yr Hydref, y byddai trethi ar geir newydd disel yn cael eu cynyddu ar Ebrill 1.