Mae Aelodau Seneddol yn San Steffan wedi rhybuddio y byddai torri’r Morlu Brenhinol yn tanseilio diogelwch gwledydd Prydain.

Mae Pwyllgor Dethol Amddiffyn San Steffan yn rhybuddio na ddylid peryglu diogelwch am resymau ariannol.

Daw’r rhybudd ar drothwy adolygiad gan swyddogion Whitehall, wrth i’r aelodau seneddol bwyso am ragor o arian ar gyfer materion amddiffyn.

Mae lle i gredu ar hyn o bryd fod hyd at 1,000 o swyddi yn y fantol, ac y gallai gwaith dwy long ddod i ben, sef HMS Albion a HMS Bulwark. Mae gwaith hofrennydd eisoes wedi dod i ben.

Dywed yr adroddiad fod y mater yn “destun embaras”.

‘Cyllideb annigonol’

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor seneddol, Julian Lewis: “Ym mis Ionawr, cawsom wybod nad oedd disgwyl i’r Albion na’r Bulwark adael gwasanaeth tan 2033 a 2034 fel ei gilydd.

“Mae’r ffaith fod y fath longau nad oes modd eu disodli ar fin cael eu dileu 15 mlynedd yn gynnar yn dangos, unwaith eto, annigonolrwydd y gyllideb amddiffyn.”

Dywed yr adroddiad fod yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Gavin Williamson yn “haeddu clod” am frwydro tros ddyfodol gwasanaethau amddiffyn, ond rhybuddiodd yr aelodau seneddol y “bydd yn methu heb ragor o arian gan y Trysorlys”.