Fe ddylai tri o bob pump car a fan newydd fod yn rhedeg ar drydan erbyn y flwyddyn 2030, os ydyn nhw am fodloni targedau lleihau nwyon tŷ gwydr, yn ol ymgynghorwyr Llywodraeth Prydain ar yr hinsawdd.

Dylid hefyd adeiladu cartrefi newydd i safonau mwy effeithlon o ran ynni i arbed arian i bobol a lleihau faint o nwyon sy’n cael eu allyrru.

Mae adroddiad gan y pwyllgor seneddol ar newid yn yr hinsawdd hefyd yn feirniadol o strategaeth ‘twf glân’ y Llywodraeth a gyhoeddwyd ym mis Hydref y llynedd. Dydi hi ddim yn mynd yn ddigon pell i gwrdd â thargedau i leihau nwyon tŷ gwydr erbyn yr 2020au ac 2030au o dan gyfraith y Deyrnas Unedig, meddai.

Mae’r adroddiad yn galw hefyd am bolisïau a gweithredu cadarnach, yn ogystal â threfn o wobrwyo a chymell perchnogion tai i ymateb i’r her. Mae hefyd yn dweud bod angen plannu mwy o goed er mwyn creu 70,000 hectar (173,000 erw) o goetiroedd newydd erbyn 2025.

“Bydd angen cadarnhau polisïau a chynigion y Llywodraeth fel mater o frys,” meddai’r Arglwydd Deben, cadeirydd y pwyllgor, “ynghyd â mesurau ychwanegol os yw’r Deyrnas Unedig i gyflawni ei ymrwymiadau cyfreithiol a sicrhau ei bod yn arwain ar faterion yn yr hinsawdd yn rhyngwladol.”