Fe fyddai Brexit caled heb gytundeb masnach yn costio £12.7bn y flwyddyn i economi’r Alban, yn ôl asesiad gan Lywodraeth yr Alban.

Mae’r ffigwr cyfystyr a gostyngiad o 8.5% mewn Cynnyrch Domestig Gros (GDP) – neu £2,300 y pen y flwyddyn yn yr Alban – o’i gymharu â chadw aelodaeth lawn o’r Undeb Ewropeaidd, yn ôl yr astudiaeth.

Mae Nicola Sturgeon wedi cyhuddo Theresa May o “esgeuluso ei dyletswydd” am fethu a darparu asesiad economaidd o effaith Brexit.

Dywedodd Prif Weinidog yr Alban bod y ddogfen yn edrych ar dri gwahanol sefyllfa o ran GDP, masnach a mewnfudo, a bod y ddogfen yn awgrymu mai aros yn y farchnad sengl yn Ewrop a’r undeb tollau fyddai’n achosi’r lleiaf o niwed i’r economi.

Fe gyhoeddwyd y ddogfen wrth i’r SNP a’r gwrthbleidiau eraill ddwysau’r ymgyrch yn erbyn Brexit caled.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig eisiau gadael y farchnad sengl a sicrhau cytundeb masnach arbennig gyda’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r SNP eisoes wedi gofyn am gytundeb ar wahân ar gyfer yr Alban a fyddai’n ei chaniatáu i aros yn y farchnad sengl hyd yn oed os yw gweddill y Deyrnas Unedig yn gadael.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig eu bod yn ceisio “cytundeb sy’n gweithio i bob rhan o’r Deyrnas Unedig”.