Mae cyn-Dwrnai Cyffredinol Iwerddon, Peter Sutherland wedi marw’n 71 oed yn dilyn salwch hir.

Mae’n gyn-Gomisiynydd Ewrop ac yn gynrychiolydd arbennig y Cenhedloedd Unedig ar fewnfudo.

Dywedodd Arlywydd Iwerddon, Michael D. Higgins fod ei “waddol yn bwysig”, a’i fod “wedi ymgyrchu’n ddiflino ar atebion rhyngwladol” i nifer o faterion, gan gynnwys mewnfudo a masnachu pobol”.

Ychwanegodd y Taoiseach Leo Varadkar ei fod yn “wladweinydd ym mhob ystyr” ac yn “bencampwr ar gyfer rhyddid unigol ac economaidd”.

Bywyd a gyrfa

Cafodd ei eni yn 1946 a’i addysgu yn yr ysgol a’r brifysgol yn Nulyn.

Yn fargyfreithiwr wrth ei waith, cafodd ei benodi’n Dwrnai Cyffredinol Iwerddon yn 1981, ac yntau ond yn 35 oed.

Aeth ymlaen i gynrychioli Iwerddon ar Gomisiwn Ewrop ac yn gyfarwyddwr cyffredinol Sefydliad Masnach y Byd (WTO).

Roedd hefyd yn gadeirydd anweithredol ar Goldman Sachs a BP.

Fe fu’n gadeirydd am gyfnod ar yr Allied Irish Bank a’r Sefydliad Gweinyddiaeth Gyhoeddus Ewropeaidd, ac yn ymgynghorydd ariannol i’r Fatican. Roedd hefyd yn Llywydd ar Ganolfan Polisi Ewrop.

Gwobrau

Cafodd e gydnabyddiaeth am ei waith wrth ennill y Legion d’Honneur gan Ffrainc, Croes Fawr Haeddiant Sifil gan Sbaen a Chroes Fawr Leopold II gan Wlad Belg.

Cafodd Ysgol y Gyfraith Coleg Prifysgol Dulyn ei henwi’n Ysgol y Gyfraith Sutherland i gydnabod ei waith.

Mae’n gadael gwraig a thri o blant.