Mi fydd Brexit yn gyfle “unwaith mewn cenhedlaeth” i ffermwyr fedru gwella’r amgylchedd ac ansawdd y tir, yn ôl rhwydwaith newydd o ffermwyr.

Cafodd y grŵp Rhwydwaith Ffermwyr er lles Natur (Nature Friendly Farming Network) ei sefydlu mewn cynhadledd ffermio yn Rhydychen ddoe, ac mae’n cynnwys dros 100 o ffermwyr sydd â’r bwriad o roi llais i berchnogion tir sy’n awyddus i gefnogi’r bywyd gwyllt yng nghefn gwlad.

Maen nhw eisoes wedi croesawu’r cyhoeddiad a wnaeth yr Ysgrifennydd Amgylchedd, Michael Gove, ddydd Iau, ynglŷn â bwriad y Llywodraeth i gyflwyno polisi amaeth wedi Brexit a fydd yn buddsoddi mewn dosbarthu nwyddau cyhoeddus ac amddiffyn yr amgylchedd.

Dywed y rhwydwaith y dylai’r  polisi newydd hwn roi cymorth i ffermwyr gynhyrchu bwydydd diogel ac iachus, gan ddiogelu hefyd y pridd, tirlun, afonydd a bywyd gwyllt.

Cymorth i ffermwyr “esblygu a ffynnu”

Yn ôl cadeirydd y grŵp, Martin Lines, sy’n ffermio yn Swydd Gaergrawnt, mi fydd yn gyfle “unwaith mewn cenhedlaeth” yn y modd y bydd polisi amaeth newydd yn rhoi cymorth i ffermwyr “esblygu a ffynnu” wrth amddiffyn yr amgylchedd ar yr un pryd.

“Fe allwn ni ddefnyddio’r cyfle hwn”, meddai, “i greu fframwaith polisi hirdymor a chadarn a fydd yn gyrru’r symudiad tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy, cynhyrchiol a gwyrddach i ffermio ym Mhrydain, a hynny wrth amddiffyn y tirlun ledled y Deyrnas Unedig hefyd.”