Mae Heddlu’r Met yn Llundain yn gofyn am £38m gan lywodraeth San Steffan tuag at gostau cynnal ymchwiliad i dân Twr Grenfell. Mae’r llu’n dweud y bydd angen yr arian i wneud yn iawn am y “costau afresymol” y bydd yn gorfod eu hwynebu i dalu am amser swyddogion.

Mae tua 200 o blismyn y Met yn dal i weithio ar yr ymchwiliad troseddol i’r tân a gynheuodd yn y bloc o fflatiau ac a laddodd 71 o bobol ym mis Mehefin y llynedd.

Nawr, mae Scotland Yard wedi gwneud cais i’r Swyddfa Gartref dalu’r £27m y bydd yr ymchwiliad yn ei gostio yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. Fe fyddai £11.1m pellach yn talu am or-amser sydd eisoes wedi’i weithio gan blismyn.

Dan y rheolau presennol, mae gan heddlu yr hawl i wneud cais am grant arbennig i helpu i dalu costau ymchwiliad unwaith y mae’r gost yn fwy na 1% o’i gyllideb.