Yn Awstralia, mae’r heddlu wedi cyhoeddi mai gŵr busnes o wledydd Prydain fu farw mewn damwain awyren fechan ar Nos Galan yn Sydney, ynghyd â’i ddyweddi, ei ddau fab, a’u merch 11 oed.

Roedd Richard Cousins, 58, yn brif weithredwr cwmni Compass Group, y cwmni arlwyo mwyaf yn y byd. Bu farw ynghyd â’i ddyweddi Emma Bowden, 48, a’i merch Heather Bowden, 11.

Cafodd ei ddau fab William Cousins, 25, ac Edward Cousins, 23, hefyd eu lladd.

Dywed yr heddlu bod y grŵp ar eu gwyliau yn Awstralia ac yn teithio ar awyren fechan i Rose Bay yn Sydney, nepell o Harbwr Sydney, pan ddigwyddodd y ddamwain tua 3.10yp (amser lleol) ddydd Sul.

Fe blymiodd yr awyren i afon Hawkesbury, tua 25 milltir i’r gogledd o Sydney gan “suddo’n gyflym”.

Y peilot Gareth Morgan, 44, o Awstralia oedd y chweched person i farw yn y ddamwain. Roedd yn gweithio i gwmni Sydney Seaplanes ac yn ôl adroddiadau roedd yn beilot profiadol.

Mae ymchwiliad ar y gweill i achos y ddamwain.

“Sioc”

Roedd disgwyl i Richard Cousins gamu o’i swydd yn brif weithredwr Compass ym mis Mawrth.

Mae cadeirydd y cwmni, Paul Walsh, yn dweud eu bod “mewn sioc ac wedi tristau gan y newyddion ofnadwy”.

William Cousins oedd pennaeth adran y wasg gydag Open Britain, sy’n ymgyrchu yn erbyn Brexit caled. Yn ôl prif weithredwr y grŵp, James McGrory, maen nhw “mewn sioc a galar” ac wedi colli “cydweithiwr arbennig a ffrind ardderchog”.

Mae nifer o Aelodau Seneddol Llafur hefyd wedi talu teyrnged i’r ymgyrchydd gwleidyddol.