Mae fersiwn Wyddeleg o ‘Auld Lang Syne’ sydd wedi cael ei chomisiynu ar gyfer Blwyddyn yr iaith Wyddeleg (Bliain na Gaeilge) yn ymddangos ar wefannau cymdeithasol heddiw (Rhagfyr 31).

Bydd y flwyddyn o godi ymwybyddiaeth yn gyfle i hyrwyddo’r iaith ymhlith siaradwyr rhugl, dysgwyr a phobol sy’n ymddiddori yn yr iaith, yn ôl Conradh na Gaeilge (Cynghrair yr Iaith Wyddeleg), sydd wedi trefnu’r digwyddiadau ar gyfer 2018.

Mae’r gân draddodiadol wedi’i gosod ar fideo sy’n dangos tirlun Iwerddon.

Heno, fe fydd neges gan Arlywydd Iwerddon, Michael D. Higgins yn cael ei darlledu yn ystod dathliadau’r Flwyddyn Newydd.

Bob mis yn ystod 2018, fe fydd heriau’n cael eu gosod er mwyn i bobol gael ymarfer eu sgiliau iaith, ac fe fydd hynny’n digwydd yn bennaf drwy’r teledu a radio.

Mae’r ymgyrch eisoes wedi cael cefnogaeth dros 50 o sefydliadau, gan gynnwys Llywodraeth Iwerddon.

‘Cyfle gwych’

Yn ôl llywydd Conradh na Gaeilge, Niall Comer, fe fydd Blwyddyn Bliain na Gaeilge (Gwyddeleg Pawb) yn “gyfle gwych” i siaradwyr o bob gallu i ddefnyddio’r iaith yn fwy aml.

“Rydym yn gwahodd y cyhoedd i gymryd rhan mewn digwyddiadau sy’n cael eu trefnu drwy gydol y flwyddyn fel eu bod yn defnyddio mwy o Wyddeleg yn ystod y flwyddyn ac yn debyg i’r ‘Gathering’ yn 2013, i gynnal eu digwyddiadau eu hunain, boed yn fore coffi drwy gyfrwng yr iaith Wyddeleg neu rywbeth tebyg.”

Ychwanegodd cydlynydd Bliain na Gaeilge, Síomha Ní Ruairc: “125 o flynyddoedd ar ôl dechrau adfywiad yr iaith Wyddeleg, mae Bliain na Gaeilge yn rhoi’r cyfle i ni ddathlu’r holl gyflawniadau er lles yr iaith ers 1893.

“Mae hefyd yn gyfle i roi’r Wyddeleg a’r heriau mae’r iaith yn eu hwynebu heddiw wrth galon y sgwrs genedlaethol.”