Mae heddlu Greater Manchester yn cynnal ymchwiliad llofryddiaeth, wedi iddyn nhw ddod o hyd i gorff dyn ar ffordd wledig ar ddydd Nadolig.
Dydi’r dyn ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto, ac mae swyddogion yn ceisio ail-greu ei oriau olaf.
Fe gafodd plismyn eu galw i Dyehouse Lane yn Rochdale, tua 8.15yb ddoe (Rhagfyr 25).
Mae disgwyl i brawf post mortem gael ei gynnal er mwyn penderfynu sut y bu’r dyn farw.