Mae lle i gredu bod Prif Weinidog Prydain, Theresa May yn barod i gefnu ar ei haddewid maniffesto i roi pleidlais rydd i Aelodau Seneddol Ceidwadol ar wyrdroi’r gwaharddiad ar hela llwynogod.

Yn ôl y Sunday Times, mae disgwyl iddi gyhoeddi’n fuan yn y flwyddyn newydd ei bod hi’n barod i anwybyddu canlyniad pleidlais yn San Steffan.

Dywedodd llefarydd ar ran Downing Street: “Does dim pleidlais a allai newid y polisi presennol ar hela llwynogod wedi’i chynllunio yn ystod y cyfnod Seneddol hwn.”

Mae’r cyfnod presennol yn dod i ben yn 2019.

Polisi

Fe fu lles anifeiliaid yn flaenoriaeth gan yr Ysgrifennydd Amgylchedd, Michael Gove ers mis Mehefin.

Ond mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn wedi bod yn feirniadol o safbwynt Theresa May ar ôl iddi ddweud yn ystod yr ymgyrch etholiadol ei bod hi o blaid hela llwynogod.

Roedd y Ceidwadwyr wedi addo yn eu maniffesto y byddai pleidlais rydd ar y mater er mwyn rhoi digon o amser i graffu ar Ddeddf Hela 2004.

Ond doedd dim sôn am hela llwynogod yn Araith y Frenhines, oedd wedi amlinellu’r blaenoriaethau tan 2019.

Ar hyn o bryd, mae hi’n anghyfreithlon hela â chŵn yng Nghymru a Lloegr.

‘Newyddion da’

Mae ymgyrchwyr tros hawliau anifeiliaid wedi croesawu’r newyddion.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gynghrair yn erbyn Campau Creulon: “Mae hi bron yn 2018, ac nid 1818, felly mae hi braidd yn rhyfedd ein bod ni’n dathlu oherwydd bod llywodraeth wedi wfftio hela llwynogod. Ond ydy, mae’n newyddion da beth bynnag.”