Mae arolwg barn newydd yn yr Alban yn awgrymu y byddai refferendwm arall ar annibyniaeth yn debygol o arwain at frwydr agos iawn.

Pe bai refferendwm arall yn gynnar yn 2019 pan fydd Prydain ar fin gadael yr Undeb Ewropeaidd, dywedodd 49% o ymatebwyr yr arolwg y bydden nhw’n dewis i’r Alban bod yn wlad annibynnol yn yr Undeb Ewropeaidd. Dywedodd 51% y bydden nhw o blaid aros ym Mhrydain y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.

Dangosodd yr arolwg gan Panelbase y byddai dau o bob tri o bobl ifanc 16-34 oed o blaid annibyniaeth mewn sefyllfa o’r fath. Ar y llaw arall, dim ond 36% o bobl dros 55 a fyddai’n cefnogi annibyniaeth, o gymharu â 64% yn erbyn.

O gymharu â’r refferendwm ar annibyniaeth yn 2014, mae union yr un ganran – 19% – o’r ddwy ochr wedi newid eu barn erbyn hyn.

O’r rhai a bleidleisiodd dros aros yn refferendwm yr Undeb Ewropeaidd y llynedd, dywedodd 68% y bydden nhw’n cefnogi annibyniaeth i’r Alban, ond roedd mwyafrif mwy fyth – 79% – o’r rhai a bleidleisiodd dros Brexit yn gwrthwynebu annibyniaeth.

Roedd 52% o’r bobl a aned yn yr Alban o blaid annibyniaeth o gymharu â 48% yn erbyn, ond roedd mwyafrif clir o’r rhai a aned yn Lloegr yn erbyn – 72% o gymharu â 28%.