Mae degau o deithiau awyr wedi’u gohirio heddiw wrth i niwl oer ledu dros rannau o wledydd Prydain.
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi rhyddhau rhybudd difrifol am y niwl hwn ar gyfer de ddwyrain Cymru ynghyd â de a chanolbarth Lloegr tan ganol dydd Mawrth (Rhagfyr 19).
Hyd yn hyn mae British Airways wedi gohirio 49 o deithiau sy’n gadael Heathrow, a 49 arall sy’n cyrraedd y maes awyr.
Mae teithiau wedi’u gohirio hefyd ym maes awyr Gatwick a Dinas Llundain – a hynny lai nag wythnos tan y Nadolig.
“Yn anffodus, gall hyn amharu ar deithiau rhai pobol ac rydym yn eu hannog i wirio sefyllfa eu teithiau gyda’r cwmnïau awyr cyn teithio i’r maes awyr,” meddai llefarydd ar ran maes awyr Heathrow.