Bydd ymgyrch yn cael ei lansio ddydd Mawrth (Rhagfyr 5) gyda’r nod o dynnu sylw rhieni at beryglon ffrydiau byw (fideo) ar y we.

Yn ôl yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA) – sy’n cynnal yr ymgyrch – mae ffrydiau byw yn cael eu defnyddio fwyfwy mewn achosion o droseddu blacmel, hudo er dibenion rhyw a cham-drin.

Cafodd bron i 200 o bobol eu harestio gan y corff yn ystod ymgyrch ym mis Hydref, ac o’r rheini roedd tua thraean wedi defnyddio ffrwd byw i gyflawni eu trosedd.

Mae’r heddlu’n credu bod troseddwyr yn aml yn defnyddio’r dechnoleg er mwyn cymryd mantais o bobol a’u hannog i ddadwisgo.

 Troseddwyr yn “addasu”

“Rydym ni’n gwybod bod troseddwyr yn addasu eu technegau wrth i arferion ar-lein plant newid,” meddai  Pennaeth Diogelu’r NCA, Zoe Hilton.

“Mae’r unigolion yma yn dysgu sut mae pobol ifanc yn cyfathrebu ar-lein; ac yn defnyddio hyn i gysylltu, esgus eu bod yn gyfeillgar ac i’w cam-drin.”

“Mae’n dda gweld bod cymaint o rieni yn ymwybodol o’r bygythiadau mae eu plant yn wynebu ar-lein. Ond gyda’r ymgyrch yma rydym yn gofyn iddyn nhw gyfarwyddo ag ymddygiad ar lein eu plant.”