Mae milwr o wledydd Prydain a deithiodd i Syria i ymladd y Wladwriaeth Islamaidd, wedi’i ladd tra’n clirio ffrwydron tir yn ninas Raqqa.

Dim ond ers pedwar mis yr oedd Oliver Hall, 24, o ardal Portsmouth, wedi bod yn y wlad.

Yn ol adroddiadau, roedd yn ceisio clirio’r ffrwydron o’r ddinas oedd wedi bod dan warchae ers tair blynedd, pan gafodd ef ei hun ei chwythu i fyny.

Mae ei deulu wedi cael eu hysbysu o’i farwolaeth.