Mae mwy nag ugain o Almaenwyr wedi’u harestio mewn cysylltiad â ffrwgwd yn ninas Lerpwl.
Mae un dyn yn ddifrol wael yn yr ysbyty yn dilyn y digwyddiad yn Conert Square.
Fe gafodd cadeiriau a thaflegrau eu hyrddio trwy’r awyr yn ystod y cwffio a ddechreuodd toc wedi 11yh rhwng aelodau o’r cyhoedd a bownsars. Roedd dwsinau o ddynion yn rhan o’r gwffas, meddai Heddlu Glannau Mersi.
Mae disgwyl i fwy o ddynion gael eu dwyn i’r ddalfa ar amheuaeth o achosi’r ffeit.
Mae pob un o’r dynion sydd wedi’u harestio yn cael eu dal a’u holi mewn amrywiol orsafoedd heddlu yn ninas Lerpwl.