Byddai gorfodi merched Moslemaidd i wisgo’r hijab yn yr ysgol yn eu “rhywioli”, yn ôl pennaeth Ofsted, Amanda Spielman.

Mae’r hijab yn arwydd o weddustra yn y diwylliant Mwslimaidd, ond fe fydd arolygwyr ysgolion yn gofyn i ferched pam eu bod nhw’n gwisgo’r benwisg.

Daw sylwadau Amanda Spielman ar ôl iddi gyfarfod ag ymgyrchwyr ddydd Gwener.

Mae Cyngor Mwslimaidd Prydain wedi cwestiynu’r polisi newydd, gan ddweud ei fod yn “destun pryder mawr” ac yn “anghywir”.

 

Ymchwil

Yn ôl ymchwil y Gymdeithas Seciwlar Genedlaethol ddeufis yn ôl, mae gan 59 allan o 142 o ysgolion Mwslimaidd gwledydd Prydain bolisi o orfodi plant i wisgo’r hijab fel rhan o’u gwisg ysgol.

Dywedodd Amanda Spielman: “Tra’n parchu dewis rhieni i fagu eu plant yn ôl eu harferion diwylliannol, gellid dehongli creu amgylchfyd lle mae disgwyl i blant ysgol gynradd wisgo’r hijab fel rhywioli merched ifainc.

“Wrth geisio mynd i’r afael â’r pryderon hyn, ac yn unol â’n harfer gyfredol yn nhermau asesu a yw’r ysgol yn hybu cydraddoldeb i’w plant, bydd arolygwyr yn siarad â merched sy’n gwisgo’r fath ddillad er mwyn darganfod pam eu bod nhw’n gwneud hynny yn yr ysgol.

“Byddem yn annog unrhyw riant neu aelod o’r cyhoedd sydd â phryder ynghylch grwpiau ffwndamentalaidd yn dylanwadu ar bolisi’r ysgol neu’n torri cyfreithiau cydraddoldeb i gwyno wrth yr ysgol.

“Pe na bai ysgolion yn gweithredu ynghylch y cwynion hyn, gellir eu gwneud wrth gysylltu ag Ofsted yn uniongyrchol.”

‘Targedu’

Ond mae Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Mwslimaidd Prydain, Harun Khan wedi cyhuddo Ofsted o “dargedu” merched ifainc sy’n dewis gwisgo’r hijab.

“Mae’n anfon neges glir at bob merch Brydeinig sy’n mabwysiadu hyn eu bod nhw’n ddinasyddion eilradd a thra bod rhwydd hynt iddyn nhw wisgo’r benwisg, fod yn well gan y sefydliad pe na baen nhw’n gwneud hynny.”

 

“Mae’r Mwslimiaid Prydeinig sydd wedi dewis gwisgo’r benwisg wedi gwneud yn arbennig o dda ym myd addysg ac maen nhw’n torri’r nenfwd wydr.

“Mae’n destun siom fod hyn yn dod yn bolisi heb hyd yn oed ymgysylltu â set amrywiol o leisiau Mwslimaidd prif ffrwd ar y mater.”

Ychwanegodd fod y polisi’n “wrth-gynhyrchiol” i’r nod o sefydlu gwerthoedd Prydeinig mewn ysgolion.