Mae plismon wedi cael ei drywanu ar ôl i’r heddlu gael eu galw i ddigwyddiad mewn coleg yng Nghaeredin bore ma.
Cafodd y dyn ei drywanu yn ei gefn yng Ngholeg Caeredin yn ardal Granton yn y ddinas fore dydd Llun.
Roedd yr heddlu wedi eu galw i’r safle yn dilyn adroddiadau bod dyn yn bygwth anafu ei hun ac eraill toc wedi 9yb.
Cafodd y plismon ei gludo i’r ysbyty ond nid yw ei anaf yn bygwth ei fywyd.
Mae dyn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad.