Carnifal Notting Hill (Chris Coome CCA 3.0)
Fe fydd mwy na 10,000 o blismyn ychwanegol ar strydoedd Llundain tros y ddeuddydd nesa’ er mwyn cadw’r heddwch yng Ngharnifal Notting Hill.

Lai na mis ar ôl y terfysgoedd yn ninasoedd Lloegr, fe rybuddiodd pennaeth heddlu Llundain fod rhai gangiau’n “ceisio achosi trwbwl”.

Fe fydd 5,500 o blismyn ychwanegol yn ardal y carnifal heddiw a 6,500 fory, gyda 4,000 o blismyn ychwanegol ar ddyletswydd mewn rhannau eraill o Lundain.

Mae disgwyl tua 1 miliwn o bobol yn y carnifal sy’n cael ei alw’n ŵyl stryd fwya’ Ewrop.

Arestio 40

Fe gafodd 40 o bobol eu harestio ymlaen llaw rth i bennaeth tros dro Heddlu Llundain ddweud bod tystiolaeth o rai’n defnyddio gwefannau cymdeithasol i geisio creu helynt.

Ond mae Steve Rodhouse yn dweud hefyd ei fod yn hyderus fod ganddo ddigon o swyddogion i gadw’r heddwch.

Yn sgil y terfysgoedd, mae’r digwyddiad yn un pwysig i Lundain, flwyddyn cyn y Gêmau Olympaidd yn y ddinas.

Meddai Boris

Ac fe ddywedodd y maer, Boris Johnson, ei fod yn gobeithio y bydd y carnifal yn helpu i wella’r clwyfau ar ôl y terfysgoedd.

“Mae’n iawn fod y carnifal yn digwydd er mwyn i ni ddangos i’r byd bod mwyafrif llethol pobol Llundain yn bobol ddeche, sy’n cadw at y gyfraith, sy’n parchu’r gyfraith, yn caru eu dinas ac eisiau dathlu ein diwylliant bywiog, amrywiol a hanesyddol,” meddai.