Mae banc UBS wedi cyhoeddi eu bod nhw’n bwriadu torri 3,500 o swyddi yn fyd-eang oherwydd twf economaidd arafach na’r disgwyl.

Mae’r banc o’r Swistir yn cyflogi tua 6,000 o bobol yn y Deyrnas Unedig a 65,000 yn fyd-eang.

Dywedodd y cwmni eu bod nhw am dorri’r swyddi wrth geisio arbed 2 biliwn ffranc Swistirol (£1.5 biliwn) erbyn diwedd 2013 .

Ni ddatgelodd y cwmni pa ganran o’r diswyddiadau fyddai yn digwydd ym Mhrydain.

Daw’r cyhoeddiad wedi i fanciau mwyaf Prydain gyhoeddi eu bod nhw’n bwriadu torri degau o filoedd o swyddi.

Mae RBS yn torri 2,000, HSBC yn torri 30,000, Barclays yn cwtogi 3,000, a Lloyds yn cael gwared ar 15,000.