Mae dyn wedi marw ar ôl cael ei daro gan ambiwlans yng Nghilgwri.
Mae Heddlu Glannau Merswy wedi galw am wybodaeth yn dilyn y gwrthdrawiad ddigwyddodd tua 5am ddoe.
Dywedodd yr heddlu fod y dyn 51 oed wedi ei daro gan yr ambiwlans yn Fender Lane, Moreton, Cilgwri.
Roedd gan yr ambiwlans ei oleuadau glas ymlaen ar y pryd, meddai’r heddlu.
“Caewyd y ffordd am sawl awr wrth i’r ymchwiliad fynd rhagddo,” meddai’r heddlu.
Dyw’r dyn heb ei adnabod yn ffurfiol eto a bydd archwiliad post-mortem yn cael ei gynnal heddiw.
Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth ambiwlans eu bod nhw’n “cydymdeimlo â theulu a chyfeillion y dyn fu farw ar amser anodd”.
“Mae’r heddlu yn ymchwilio ac fe fydd y gwasanaeth ambiwlans yn cyd-weithio gyda nhw.”