Cafodd 162 o achosion o losgi bwriadol eu cofnodi yn Llundain yn ystod y terfysgoedd (Llun PA)
Fe wnaeth Heddlu Llundain arestio bron i 2,000 o bobl yn sgil y terfysgoedd yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd Scotland Yard heddiw.

Cafodd dros 1,000 o’r rhain eu cyhuddo â throseddau’n ymwneud â’r terfysgoedd.

Fe wnaeth yr heddlu gofnodi dros 3,000 o droseddau, a’r rhain yn cynnwys, ymysg eraill:

* 1,101 o achosion o fwrgleriaeth o adeiladau heblaw tai

* 162 o achosion o losgi bwriadol

* 399 o achosion o ddifrodi cerbyd modur

* 310 o achosion o ddwyn eiddo personol a

* 48 achos o anafu difrifol.

Meddai llefarydd ar ran Heddlu Llundain: “Roedd cyfanswm o 3,296 o droseddau’n gysylltiedig â’r anhrefn a ddigwyddodd yn Llundain rhwng 6 a  9 Awst.”