Siop John Lewis Caerdydd
Roedd cwymp mwy na’r disgwyl mewn gwerthiant cyffredinol ar y stryd fawr yn ystod mis Gorffennaf, yn ôl ffigyrau a gyhoeddwyd heddiw.

Cynyddodd gwerthiant 0.2% yn unig ym mis Gorffennaf o’i gymharu â 0.8% ym mis Mehefin. Roedd economegwyr wedi disgwyl cynnydd o 0.4%.

Dioddefodd gwerthwyr nwyddau, dillad, esgidiau siopau ar-lein wrth i gwsmeriaid wario llai o’u harian.

Mae’r sector mân-werthu wedi dioddef wrth i gyflogau aros yn yr unfan er fod chwyddiant yn parhau i godi(0.2% i 4.4% ym mis Gorffennaf).

Mae cadwyni siopau gan gynnwys Jane Norman, Habitat ac Oddbins wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr, a rhai eraill gan gynnwys Mothercare, HMV a Thorntons wedi cau siopau.

Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod siopau wedi gostwng prisiau yn sylweddol ym mis Mai a Mehefin yn y gobaith o ddenu siopwyr darbodus.

Siopau nwyddau i’r cartref, gan gynnwys Comet, sydd wedi eu taro caletaf wrth i gwsmeriaid roi’r gorau i brynu eitemau mawr fel setiau teledu a phoptai.

Roedd cynnydd 0.7% mewn gwerthiant bwyd wrth i archfarchnadoedd dorri prisiau.

Dywedodd Chris Williamson, prif economegydd cwmni gwasanaethau ariannol Markit, fod yna berygl erbyn hyn y bydd yna ail ddirwasgiad ym Mhrydain.

“Mae pobol yn pryderu am eu swyddi, ac mae cyflogau yn cael eu gwasgu gan brisiau uchel. Ar ôl chwyddiant mae cyflogau yn syrthio 2% bob blwyddyn,” meddai.

“Mae dau draean o’r economi yn dibynnu ar bobol yn mynd i’r siopau a phrynu ac mae’r ffigyrau yma yn dangos pa mor agos yw Prydain at ddisgyn yn ôl i ddirwasgiad arall.”