Dylai pynciau Safon Uwch “traddodiadol” gyfri am fwy wrth i fyfyrwyr sgrialu am lefydd mewn prifysgolion, dywedodd un o weinidogion y llywodraeth heddiw.

Fe fydd miloedd o fyfyrwyr o bob cwr o Brydain yn derbyn eu canlyniadau Lefel-A heddiw, ond mae pryderon na fydd yna ddigon o le iddyn nhw i gyd mewn prifysgolion.

Dywedodd David Willetts, Gweinidog Prifysgolion Llywodraeth San Steffan, na ddylai pynciau modern gan gynnwys dawns ac astudiaethau cyfryngol gael eu hystyried yr un mor bwysig a’r pynciau craidd.

“Mae’r system pwyntiau sy’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd yn rhoi’r argraff fod pob gradd Safon Uwch yn gyfartal,” meddai wrth bapur newydd y Daily Telegraph.

Mae Ucas, sy’n prosesu ceisiadau myfyrwyr, yn dyrannu pwyntiau ar sail gradd yn hytrach na phwnc.

“Mae angen i Ucas ddangos fod rhai pynciau Safon Uwch yn bwysicach na’i gilydd ond dyw’r system pwyntiau ddim yn gwneud hynny’n amlwg,” meddai David Willetts.

Ychwanegodd y dylai prentisiaethau gyfri tuag at y pwyntiau sydd eu hangen er mwyn ennill lle mewn prifysgol.

Mae yna bryder na fydd  nifer o fyfyrwyr yn gallu ennill lle mewn prifysgolion eleni ac yn wynebu gorfod talu ffioedd dysgu o hyd at £9,000 o 2012 ymlaen.

Bydd myfyrwyr o Gymru yn parhau i dalu £3,375 y flwyddyn, a Llywodraeth Cymru yn talu’r £5625 arall.

‘Cynnal safonau’

Dywedodd Wendy Piatt o’r Russell Group, sy’n cynrychioli prifysgolion blaenllaw, nad oedd yn realistig disgwyl y byddai bob darpar fyfyriwr yn cael lle mewn prifysgol.

“Dyw’r wlad ddim yn gallu fforddio cynnig lle mewn prifysgol i bawb sydd eisiau un,” meddai.

“Mewn hinsawdd ariannol anodd mae’n bwysicach cynnal safonau na chynyddu nifer y llefydd sydd ar gael.”